Mr Hywel Dafydd

MB BChir MA MSc FRCS(Plast)

 

Arbenigwr Llawfeddygaeth Dwylo a Llawfeddygaeth Plastig Adluniol yng Nghaerdydd, Abertawe a lledled De Cymru

Mr-Hywel-Dafydd-Consultant-Hand-Surgeon-Portrait.jpg

Rwy’n Llawfeddyg Plastig Ymgynghorol cwbl gymwys sy’n gweithio yn y GIG ac mewn practis preifat.

Gallaf ymgynghori â chi yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Rwy’n canolbwyntio ar gyflyrau rwy’n delio â nhw’n rheolaidd – llawfeddygaeth dwylo ac arddwrn, llawfeddygaeth nerfau ymylol, adlunio ac amdorri coesau, a thynnu smotiau neu dalpau o’r croen.

Cefais hyfforddiant penodol yn y meysydd hyn gan arbenigwyr byd-enwog yng Ngogledd America, Ewrop, De Ddwyrain Asia a Seland Newydd.

Amdanaf i

 

Ces i fy magu yng Nghaerdydd ac ar ôl graddio o Brifysgol Caergrawnt yn 2001, gweithiais mewn unedau llawfeddygaeth blastig yng Nghaerlyr, Birmingham, Cofentri, ac Abertawe.

Tua diwedd fy hyfforddiant yn 2012 roeddwn i’n un o chwe chymrawd rhyngwladol a ddetholwyd i dreulio dros flwyddyn yn torri tir newydd ym maes adlunio microlawfeddygol (reconstructive microsurgery) mewn canolfan fyd-enwog yn Taiwan o dan yr Athro Fu-Chan Wei (魏福全) a’i gydweithwyr.

Yn ogystal â fy mhrofiad amhrisiadwy yn Taiwan, cwblheais gymrodoriaeth arbenigol mewn llawfeddygaeth orthopedig y dwylo ac arddwrn yn Ysbyty Middlemore yn Auckland, Seland Newydd. O ganlyniad, rwyf yr un mor gyfforddus yn delio ag esgyrn a chymalau â’r croen, y gewynnau (tendons/ligaments) a’r nerfau.

Cefais hyfforddiant arbenigol pellach wrth ymweld â St Louis, Missouri UDA, i ddysgu technegau arloesol llawfeddygaeth nerfau ymylol gan arbenigwr byd-enwog arall, yr Athro Susan Mackinnon.

Erbyn hyn, rydw i’n addysgu a hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o lawfeddygon plastig.

Rwyf wedi cyhoeddi llyfr, Key Notes on Plastic Surgery, a gafodd ganmoliaeth uchel yng Ngwobrau Llyfr y BMA yn 2015. Mae’n gyfrol boblogaidd iawn gyda doctoriaid iau ledled y byd wrth iddynt astudio ar gyfer eu harholiadau terfynol.

Rwy’n aelod llawn o Gymdeithas Brydeinig Llawfeddygaeth y Dwylo a ces i fy ethol i’r Cyngor yn 2022. Rydw i ar ei Phwyllgor Cyrsiau Hyfforddi, a chyn hynny ar ei Phwyllgor Addysg a Hyfforddiant 2018 – 2021. Bûm yn ddarlithydd gwadd ar lawer o gynadleddau cenedlaethol a chyrsiau hyfforddi. Rwyf hefyd yn adolygwr erthyglau ymchwil a gyflwynwyd i’r Journal of Plastic, Reconstructive & Aesthetic Surgery.

Beth i’w ddisgwyl

 

Byddaf yn gwrando’n astud ar eich problemau ac yn gwirio fy mod yn deall holl fanylion yr hyn rydych chi’n ei ddisgrifio. Mae hyn fel arfer yn rhoi syniad da i mi o’r diagnosis tebygol, hyd yn oed cyn i mi gwblhau archwiliad. Bydd angen i mi wybod hefyd am eich iechyd cyffredinol, gan gynnwys unrhyw feddyginiaeth rydych chi’n ei chymryd.

Rwy’n hoffi gofyn beth, yn eich barn chi, a allai fod yn achosi eich symptomau, oherwydd bydd llawer o gleifion wedi gwneud eu hymchwil ar Google cyn fy ngweld. Mae’n bwysig fy mod yn gwirio bod eich ymchwil yn ffeithiol gywir ac yn cadarnhau’r hyn rydych chi’n ei wybod a’i ddeall. Yna gallaf adeiladu ar y wybodaeth honno ac efallai y byddaf yn gallu tawelu’ch meddwl os ydych wedi darllen am rhywbeth nad yw’n berthnasol yn eich achos chi.

Mae hefyd yn ddefnyddiol imi wybod beth yw eich gobeithion personol ar gyfer gwellhad, er mwyn sicrhau bod modd cwrdd â’ch disgwyliadau â’r triniaethau sydd ar gael. Weithiau, mae angen ymchwiliadau pellach fel pelydr-x, sganiau neu astudiaethau nerfau trydanol i gadarnhau diagnosis. Byddaf yn gofyn am y rhain dim ond os ydynt yn cyfrannu’n ddefnyddiol at y broses ddiagnostig neu’n helpu gyda chynllunio triniaeth bellach.

Byddaf yn egluro pwrpas unrhyw brofion pellach ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Fy nod yw rhoi digon o wybodaeth ichi fel y gallwch wneud eich penderfyniad eich hun ynghylch unrhyw driniaeth bellach. Yna gallwn gytuno ar gynllun derbyniol gyda’n gilydd. Gallwch chi gymryd cymaint o amser ag y dymunwch i wneud penderfyniad – ni ddylech fyth deimlo dan bwysau i wneud unrhyw ddewisiadau am eich gofal.

Fy meysydd arbenigedd

Llaw ac arddwrn

 

Rydym yn defnyddio ein dwylo’n ddi-baid ar gyfer cyflawni bron i bopeth felly gall anhwylderau’r llaw ac arddwrn gael effaith fawr ar ein bywydau bob dydd. Byddaf yn trin nifer o gyflyrau cyffredin y llaw a’r arddwrn yn rheolaidd, gan gynnwys syndrom twnnel carpal (carpal tunnel syndrome), crebychiad Dupuytren (Dupuytren’s contracture), bys cloig (trigger finger), arthreitis, cygnen (ganglion), ac anafiadau’r gewynnau (tendon injuries).

Efallai y byddaf yn argymell triniaethau nad ydynt yn llawfeddygol, fel sblint, pigiad, neu gwrs o therapi llaw cyn ystyried llawdriniaeth.

Nid oes angen llawdriniaeth ar bob problem llaw ac arddwrn. Yn baradocsaidd, mae’n cymryd mwy o arbenigedd a phrofiad i benderfynu pryd i beidio â llawfeddygu. Mae’n bwysig cofio bod unrhyw lawdriniaeth, ni waeth pa mor ofalus a manwl gywir y mae’n cael ei chyflawni, yn dal i fod yn fath o ‘anaf’ i gydbwysedd cain strwythurau anatomegol y llaw a’r arddwrn.

Os cytunwn fod angen llawdriniaeth, rhoddir ymarferion llaw ac arddwrn i chi er mwyn gwneud y mwyaf o fudd y llawdriniaeth a lleihau’r sgîl-effeithiau diangen, megis creithio mewnol a stiffrwydd.

Nerfau ymylol

 

Unwaith y bydd nerf yn gadael yr ymennydd neu fadruddyn y cefn (spinal cord) fe’i gelwir yn ‘nerf ymylol’ (peripheral nerve). Mae’r nerfau hyn yn teithio ar hyd a lled y corff yn cario signalau trydanol o’r croen i’r ymennydd i’n galluogi ni i deimlo; maent hefyd yn cario signalau i’r cyhyrau i’n caniatáu ni i symud.

Gall nerfau ymylol gael eu hanafu neu eu pinsio ar eu teithiau, gan achosi problemau megis pinnau bach blinderus, poen nerfol aruthrol, neu fraich neu goes ddiffrwyth. Gall llawfeddygaeth arbenigol helpu rhai cleifion dethol.

Rwy’n aml yn derbyn cyfeiriadau gan lawfeddygon eraill ynghylch cleifion sy’n dioddef o boen parhaus neu anhawsterau yn dilyn anaf i nerf neu lawdriniaeth flaenorol aflwyddiannus.

Mae problemau mwyaf cymhleth y nerfau ymylol yn fwy tebygol o gael eu datrys gan dîm o wahanol arbenigwyr, sy’n cynnwys llawfeddygon, ffisiotherapyddion, arbenigwyr poen, radiolegwyr a seicolegwyr.

Rwy’n gweithio’n agos gyda fy nghyd-weithiwr, Mr Dean Boyce, yn Uned Llawfeddygaeth Nerfau Ymylol Cymru yn Ysbyty Treforys, Abertawe, lle rydym yn cynnal clinig amlddisgyblaeth i drin yr anafiadau mwyaf cymhleth mewn ffordd gyfannol.

Adlunio breichiau a choesau

 

Nod adlunio aelodau (limb reconstruction) yw adfer swyddogaeth (restore function) ar ôl anaf, tynnu canser, neu haint difrifol. Gall problemau godi o greithio anhwylus, haint esgyrn (chronic osteomyelitis), niwed i nerf neu ewyn (nerve, ligament or tendon damage), amdoriad (amputation), diffyg cyflenwad gwaed, tor asgwrn difrifol, stiffrwydd a phoen. Mae’r driniaeth yn aml yn broses hir a chymhleth i lawfeddygon yn ogystal â chleifion.

Mr-Hywel-Dafydd-Consultant-Hand-Surgeon-headshot.jpg 2.jpg
Rwy’n cyd-weithio gyda llawfeddygon trawma ac orthopedig, microbiolegwyr, ac arbenigwyr ymadferiad (rehabilitation) i gael y canlyniadau gorau posibl.

Mae hyn yn aml yn golygu trawsblannu croen, cyhyrau neu asgwrn o un rhan o’r corff i’r llall ac ailsefydlu’r cyflenwad gwaed gan ddefnyddio technegau microfasgwlaidd. Pan fo angen llawdriniaeth o’r fath gymhlethdod, yn aml mae dyfodol y fraich neu’r goes yn y fantol.

Yn y cyd-destun hyn, mae llawdriniaeth i achub coes yn driniaeth risg uchel ac os y bydd yn methu, yna gall amdoriad (amputation) sydd wedi’i gynllunio’n ofalus roi gwell canlyniad na chadw coes anystwyth, boenus, heintiedig.

Amdoriad

 

Y fi yw’r Llawfeddyg Plastig sy’n gweithio gyda’r Ganolfan Aelodau Artiffisial (Artificial Limb Centre) yn Abertawe. O ganlyniad, rydw i’n gweld yr holl broblemau y mae pobl ag amdoriadau (amputations) yn dioddef â nhw.

Mae’r rhain yn cynnwys gormodedd o groen a chnawd, diffyg cnawd i glustogi’r bonyn asgwrn, tyfiant o sbigyn esgyrnog yn achosi poen neu friw, poen yn deillio o niwroma ar ddiwedd nerf, codennau (cysts), ac ardaloedd lletchwith o groen plyg. Gall llawfeddygaeth helpu ond dim ond pan fetho pob dull arall o driniaeth ac ar ôl asesiad trylwyr.

Mae’n hanfodol cael tîm amlddisgyblaeth i ddelio â’r materion hyn, oherwydd efallai y bydd prosthetydd yn gallu osgoi rhai problemau trwy addasu’r soced prosthetig. Mae hyn yn sicrhau y gall cleifion barhau i gerdded ar goes brosthetig drwyddi draw.

Os oes angen llawdriniaeth, mae hyn fel arfer yn golygu gorfod defnyddio cadair olwyn i fynd ar hyd y lle tra bod y bonyn sydd wedi’i adlunio yn gwella ac yn cydgrynhoi.

Hyd yn oed os fydd popeth yn gwella y tro cyntaf, gall gymryd rhwng 6 a 12 wythnos i fod yn ôl yn cerdded ar goes newydd. Mae’n bwysig cofio mai’r nod yn y pen draw yw hwyluso gosod prosthesis, neu gario pwysau drwy’r bonyn. Yn aml gellir cyflawni’r nod hwn heb lawdriniaeth.

Smotiau a thalpau’r croen

 

Dylai smotiau cythryblus gael eu hasesu gan feddyg teulu yn y lle cyntaf. Mae’r mwyafrif llethol o smotiau, tagiau croen a chodennau (cysts) yn ddiniwed a gellir eu tynnu’n hawdd. Os oes unrhyw amheuaeth y gallai’r smotyn fod yn ganser croen, gall eich doctor eich cyfeirio at arbenigwr i gael asesiad brys gan y GIG.

Er ei bod yn arferol gofidio tra’n aros i weld arbenigwr, ni fydd canser gan 9 o bob 10 (90%) o gleifion sy’n cael eu cyfeirio. Gellir tynnu’r rhan fwyaf o smotiau, talpau, a brychau croen nad ydynt yn ganseraidd trwy lawdriniaeth anesthetig lleol. Gwneir hyn os ydynt mewn man trafferthus (er enghraifft, o dan strapen y bra) neu am resymau cosmetig.

Mae sawl gwahanol ffordd i gael gwared â smotiau, brychau, a thalpau o’r croen, a gallaf drafod buddion ac anfanteision pob techneg gyda chi.

Daw rhai smotiau o haen mwyaf arwynebol y croen a gellir eu tynnu trwy ‘curettage’, sy’n golygu ‘crafu’. Er bod crafu rhywbeth o’ch croen i’w glywed yn echrydus, nid yw’n niweidio haenau dyfnach y croen ac felly mae siawns isel o greithio.

Mae’r clwyf yn gwella o fewn ychydig o wythnosau wrth i groen newydd dyfu dros yr ardal cignoeth. Efallai bydd gan y croen newydd liw ychydig yn wahanol i’r croen o’i amgylch, ond bydd gwedd yr ardal yn gwella’n sylweddol gydag amser tan ei fod bron yn anweledig ar ôl ychydig fisoedd.

Ar gyfer smotyn sy’n codi’n amlwg uwchben lefel y croen, gellir tynnu tafell o’r brycheuyn tan ei fod yn wastad â’r croen o’i amgylch. Mae’r driniaeth yma’n gadael gwreiddiau’r smotyn yn ei le, felly mae siawns dda y bydd yn aildyfu’n araf gydag amser.

Mae’r ardal cignoeth sydd ar ôl yn gwella ar ei ben ei hun mewn wythnos neu ddwy. Er nad yw gadael gwreiddiau’r brycheuyn ar ôl yn ddelfrydol, mewn rhai mannau lle mae’r croen yn dynn (megis ar flaen y trwyn), wrth ei waredu’n llwyr byddwn i’n gadael twll mawr y byddai angen creithio helaethach i’w adlunio.

Os oes angen gwaredu smotyn dwfn neu dalpau croen eraill, bydd angen tynnu’r croen o gwmpas y smotyn, gyda’r nod o gael gwared ar wraidd y brycheuyn a’i atal rhag tyfu’n ôl. Bydd hyn yn creu clwyf eliptig fydd yn gadael craith llinell syth daclus ar ôl ei bwytho’n ofalus.

Cysylltwch â mi

Apwyntiadau

Ysbyty Spire Caerdydd
Heol Croescadarn
Pentwyn
Caerdydd CF23 8XL

(029) 2073 5515
cysylltu@hdhandsurgery.com

 

Ysbyty HMT Sancta Maria
Heol Lamberts
Abertawe SA1 8FD

(01792) 479040
cysylltu@hdhandsurgery.com

 

Os ydych am wneud apwyntiad, cysylltwch â’m tîm ymholiadau dros y ffôn, neu gwnewch apwyntiad yn uniongyrchol trwy wefan Ysbyty Spire Caerdydd.

Peidiwch â chynnwys gwybodaeth feddygol gyfrinachol oherwydd ni allaf wneud diagnosis na rhoi cyngor penodol heb ymgynghori â chi wyneb yn wyneb.

 
 

“Diolch yn fawr iawn i ti am dy waith amhrisiadwy a thrylwyr. Roedd y gwasanaeth a dderbyniwyd yn gyfeillgar a phroffesiynol ac nid oedd dim yn ormod o waith.”

— Arwel, 38, a gafodd llawdriniaeth ar ei law